Pryd ar Glud
Ar hyn o bryd, mae Pryd ar Glud yn parhau fel arfer, ond mae cyfarwyddiadau newydd ar gyfer gyrwyr cyflenwi i helpu i’w diogelu eu hunain a’r cyhoedd, mewn ymdrech i oedi a lleihau uchafbwynt y feirws.
Os oes angen i gwsmer ynysu ei hun am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni, gall hyn fod yn arwydd ar y drws ffrynt hyd yn oed. Gellir gosod prydau mewn man addas (stepen drws/portsh) ym mlaen yr adeilad a bydd cloch y drws yn cael ei chanu neu’r drws yn cael ei guro. Bydd y gyrrwr yn camu’n ôl cyn belled ag y bo’n ymarferol (yn ddelfrydol o leiaf 2m) ac yn aros i’r cwsmer agor y drws. I gael sicrwydd, bydd ein gyrwyr yn gwisgo menig pan fyddant yn danfon i unrhyw un sy’n hunanynysu.
Yna gall y cwsmer godi’r pryd a mynd ag ef i mewn, os nad ydynt yn ateb y drws, bydd y gyrrwr yn mynd â’r pryd ac yn gadael cerdyn galw. Yna bydd y gyrrwr yn cysylltu â’r swyddfa a bydd y perthynas agosaf yn cael gwybod am fethu â chyflenwi’r pryd.
Rwy’n gobeithio bod hyn yn esbonio pam fod y prydau bwyd yn newid am y tro. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyson gall pethau newid ymhellach. Os oes angen mwy o gymorth arnoch cysylltwch â ni ar 02920 537080
Cofion Cynnes
Y Tîm Pryd ar Glud
Teleofal Caerdydd
Ar hyn o bryd, mae Teleofal Caerdydd yn parhau fel arfer, gyda rhagofalon ychwanegol ar waith i helpu i ddiogelu eu hunain a’r cyhoedd. Mae’r tîm yn gweithio’n galed i ateb eich galwadau ac i anfon cymorth lle bo angen. Bydd y tîm yn mynd ati i wneud galwadau i’n cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a’u bod yn cadw golwg ar eu lles.
Mae cadw ein cwsmeriaid a’n gweithwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni ac felly, a fyddech cystal â dweud wrthym a ydych wedi cael diagnosis o Coronafeirws yn ddiweddar neu wedi cael cyngor i’ch ynysu eich hun. Os oes angen mwy o gymorth arnoch cysylltwch â ni ar 02920 537080
Cofion Cynnes
Tîm Teleofal Caerdydd
Comments are closed.