Ymholiadau busnes

Gweithio gyda Theleofal Caerdydd

Gall Teleofal Caerdydd gynnig amryw o atebion monitro ag ymateb i sicrhau bod eich cleientiaid yn teimlo’n ddiogel, beth bynnag sy’n digwydd.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, mae ansawdd yn bwysig i ni, ac rydym yn dilyn safonau diwydiant perthnasol. Mae gennym achrediad ISO:9001-2018 ac rydym yn mesur ein gwasanaethau drwy gyrff allanol a Chymdeithas Gwasanaethau Teleofal.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Teleofal Caerdydd ar gyfer eich sefydliad, llenwch ein ffurflen ymholi.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

Telecare Man

Adfer mewn Trychinebeb

Os bydd trychineb, gallwn ddarparu datrysiad i adfer yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol er mwyn cynnal neu ailddechrau swyddogaethau gwasanaeth critigol yn gyflym. Gallwch fod yn sicr y bydd help a chymorth ar gael yn ystod argyfwng pan fyddwch ei angen fwyaf.

Atgyfeiriadau

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau’n rheolaidd gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolyn a allai elwa ar ein gwasanaethau. Os hoffai eich sefydliad atgyfeirio’n uniongyrchol at Teleofal Caerdydd, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.

Galwadau lles

Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig galwadau lles i sawl llety gwarchod ar draws Caerdydd, gan gefnogi’r rhai sy’n hŷn neu’n agored i niwed i fyw’n annibynnol. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â’ch defnyddwyr gwasanaeth os nad oes rheolwr cynllun ar y safle ar gael.

Sut y gallwn helpu eich cleientiaid

Gall Teleofal Caerdydd a Phryd ar Glud gael mynediad at ac adolygu meini prawf ar gyfer pob unigolyn a gaiff ei atgyfeirio. Gall ein staff cymwys ganfod yr ateb gorau posibl i sicrhau bod anghenion eich cleientiaid yn cael eu diwallu.

Mae Teleofal Caerdydd yn unigryw gan ei fod yn darparu gwasanaeth Ymateb Symudol 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn gan ddarparu gwasanaeth cymorth cyntaf yn eich cartref eich hun.

Nid yn unig y mae ein gwasanaeth Pryd ar Glud yn darparu pryd bwyd maethlon, ond mae hefyd yn cynnig rhyngweithio cymdeithasol a gwiriad ynghylch lles gofal.

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd