Teleofal

O
£3.60* yr wythnos yn unig.

Dewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd

Pan ddewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd, cewch larwm crogdlws ac uned ymateb y gallwch eu defnyddio i gysylltu â ni os ydych yn cael trafferthion.

Mae ein gwasanaeth Larwm Teleofal yn helpu llawer o gyplau, a’r bobl hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae symlrwydd wrth galon ein gwasanaeth larwm Teleofal 24-7, gan alluogi cwsmeriaid ledled Caerdydd i fod yn hyderus ac yn ddiogel yn eu cartrefi.
Mae gennym dîm unigryw o Wardeiniaid Symudol cymwys iawn all eich helpu gyda’r un offer codi ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ei ddefnyddio.

Boed yn berson hŷn, yn agored i niwed neu’n anabl, gall y Wardeiniaid Symudol ddod i’ch helpu’n uniongyrchol – gallant eich codi ar ôl cwympo, rhoi cymorth cyntaf neu aros gyda chi nes i gymorth ychwanegol gyrraedd, unrhyw le yn y ddinas, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae wedi ymdrin â 254,654 o alwadau
Roedd 95,367 ohonynt yn rhai brys
Atebwyd 97% o alwadau brys o fewn 60 eiliad

Sut mae’n gweithio?

Pan fyddwch yn dod yn gwsmer Teleofal Caerdydd, byddwn yn darparu larwm gwddf ac uned seinydd ymateb i chi. Os byddwch yn cael eich hun mewn anhawster, gallwch bwyso’r botwm ar y larwm gwddf neu’r seinydd a siarad yn uniongyrchol â’n tîm trwy’r seinydd ar yr uned. Bydd y tîm yn cymryd camau ar unwaith i’ch helpu, ac mae’n gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gall ein tîm weithredu trwy:

cysylltu ag aelod o’r teulu, un o’ch perthnasau agosaf neu ofalwr,
hysbysu’r gwasanaethau brys megis y frigâd dân a’r gwasanaeth ambiwlans,
anfon ein Hymatebydd Symudol yn uniongyrchol i’ch eiddo i’ch cynorthwyo.

Mae gennym dîm unigryw o Ymatebwyr Symudol tra chymwys sy’n gallu eich helpu gyda’r un offer codi ag mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu defnyddio.

Darllenwch sut mae Teleofal yn gallu eich helpu gartref a pha becynnau offer sydd ar gael.

Gwnewch Gais Nawr

Yn ddiogel yn eich cartref

Mae gennym dîm unigryw o Wardeiniaid Symudol cymwys iawn all eich helpu gyda’r un offer codi ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ei ddefnyddio.

Boed yn berson hŷn, yn agored i niwed neu’n anabl, gall y Wardeiniaid Symudol ddod i’ch helpu’n uniongyrchol – gallant eich codi ar ôl cwympo, rhoi cymorth cyntaf neu aros gyda chi nes i gymorth ychwanegol gyrraedd, unrhyw le yn y ddinas, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Sut mae ein cynhyrchion yn gweithio yn eich cartref
Atebwyd 95% o alwadau brys o fewn 60 eiliad
Cynhaliwyd dros 98% o’r gosodiadau nad ydynt yn rhai brys o fewn 15 ddiwrnod.
Osgoi cost o £869,667.42 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru

Ffoniwch 02920 537080 i drefnu sgwrs gyfeillgar neu ymweliad tŷ

Faint mae Teleofal Caerdydd yn ei gostio?

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer preswylwyr Caerdydd. Mae Teleofal Caerdydd yn un o’r gwasanaethau gwerth gorau o’i fath yng Nghymru ac mae’n cael ei adolygu’n flynyddol. Y cyfan sydd angen ei wneud yw dewis lefel y gwasanaeth a’r pecyn offer (dolen) sy’n fwyaf addas i chi.

Pecyn 1

GWASANAETH CYSWLLT

£3.60yr wythnos

Am ddim ond £3.60 yr wythnos gallwch gofrestru i gael cymorth 24 awr trwy bwyso botwm. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys:

Cymorth 24 awr dros y ffôn gan ein tîm cyswllt ymroddedig

Ymateb 24 awr cyflym i unrhyw alwad a achosir gan drallod

Bydd y tîm cyswllt yn cysylltu â’ch perthynas, eich gofalwr neu’r gwasanaethau brys

 

 

Pecyn 2

GWASANAETH CYSWLLT A WARDEINIAID

£6.43yr wythnos

Dim ond £6.43 yr wythnos yw cost ein gwasanaeth mwyaf poblogaidd. Fe gewch:

Cymorth ar alw uniongyrchol gan ein Wardeiniaid Symudol hyfforddedig.

Cymorth 24 awr dros y ffôn gan ein tîm cyswllt

Wardeiniaid Symudol cymorth cyntaf cymwys

Dim cyfyngiad ar nifer yr ymweliadau warden

Ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn

Ateb eich cwestiynau

Gallwch glicio ar y blychau cwestiwn isod i’w hehangu a chael rhagor o wybodaeth.

Mae gan eich larwm gwddf ystod o 50 metr, felly dim ond yn y cartref y dylech ei wisgo. Pan fyddwn yn rhoi eich larwm gwddf i chi, byddwn yn cwblhau prawf ystod i sicrhau ei fod yn cysylltu’n iawn.

Gallwch wisgo’r larwm gwddf unrhyw le yn eich cartref, gan gynnwys yn yr ystafell ymolchi. Er bod y larwm gwddf yn gallu gwrthsefyll dŵr, nid yw’n gallu dal dŵr yn llwyr, felly gofynnwn i chi beidio â’i drochi yn y bath.

Peidiwch â phoeni os byddwch yn pwyso’r larwm ar ddamwain. Bydd ein gweithredwr yn gwirio a ydych chi’n iawn ac nad oes angen cymorth arnoch chi. Gallwch roi gwybod i ni eich bod wedi pwyso’r larwm gwddf ar ddamwain.

Os byddwch yn colli’ch larwm gwddf, bydd yn costio £40 i’w ddisodli. Byddwn yn anfon eich larwm gwddf newydd atoch fel blaenoriaeth.

Os yw batri eich larwm gwddf yn isel, anfonir hysbysiad at y ganolfan fonitro.

Os yw’r pŵer yn methu yn eich cartref, mae batri yn eich uned sylfaen sy’n sicrhau bod y system yn parhau i weithio, felly rydych chi’n dal wedi cysylltu os oes angen i chi bwyso’r larwm.

Nac ydy, mae’n berffaith ddiogel i ddefnyddio cymhorthion clyw a/neu reolyddion calon. Ni fydd hyn yn ymyrryd â phellter y radio.

Dylech, a wnewch chi ddweud wrth Teleofal Caerdydd os byddwch yn newid cyflenwyr ffôn fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Yn y gorffennol mae problemau wedi codi pan fo gweithredwyr telathrebu penodol yn gwella eu rhwydweithiau ac mae hyn wedi cael effaith andwyol ar yr offer. Os oes gennym yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cyflenwr ffôn, gallwn eich hysbysu ac o bosibl gywiro unrhyw broblemau.

Ffoniwch ni ar 02920 537080 i roi gwybod i ni am y manylion yr hoffech eu newid.

Os ydych chi’n symud tŷ, gallwch ddad-blygio eich system a mynd â hi gyda chi. Dylech gysylltu â ni a rhannu eich:

  • cyfeiriad newydd,
  • rhif ffôn, a
  • manylion y deiliad allwedd (os ydynt wedi newid).

Os oes newidiadau i’ch amgylchiadau personol, dylech gysylltu â ni i roi gwybod i ni. Mae’n bwysig bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am eich:

  • perthynas agosaf,
  • gwybodaeth feddygol,
  • Meddyg Teulu.

Gofynnwn am y wybodaeth hon rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu ag aelodau o’ch teulu, neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth bwysig i’r gwasanaethau brys.

Cewch gael hyd at 32 o synwyryddion (yn dibynnu ar yr uned). Cysylltwch â’r tîm i gael cyngor.

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd