Ein cynhyrchion

Teleofal Caerdydd

Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion sy’n cael eu cynnal gan dechnoleg sy’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n gyson. Rydym yn creu pecynnau pwrpasol ar gyfer ein cwsmeriaid, sy’n golygu y gallwn gynnig datrysiadau wedi’u teilwra sy’n addas i’r unigolyn. Mae’r dull pwrpasol hwn yn golygu bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n saff a diogel gan wybod mai ein cynnyrch ni yw’r ateb priodol iddynt bob amser.

Cliciwch ar y delweddau isod i ddarganfod mwy am ein cynhyrchion.

Pryd ar Glud

Mae’r gwasanaeth Pryd ar Glud yn darparu prydau poeth, maethlon sy’n addas ar gyfer pob math o ddeiet, amodau ac anghenion diwylliannol. Rydym yn falch iawn o ansawdd ac amrywiaeth ein prydau cytbwys, maethlon sy’n cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol arlwyo llym. Mae ein bwydlen yn ailadrodd bob pedair wythnos ac mae’n cael ei hadnewyddu ddwywaith y flwyddyn, yn yr haf ac yn y gaeaf.

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd