Adroddiadau a Strategaethau

Mae Teleofal Caerdydd a’r gwasanaeth Pryd ar Glud yn falch o’u cyflawniadau ac yn awyddus i rannu ein hadroddiadau â chi.

Mae’r dogfennau hyn ar gael i chi eu darllen isod.

Annual Report 2022-2023

Adroddiad Blynyddol 2022/2023

CROESO I’N HADRODDIAD BLYNYDDOL Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig cymorth i dros 5,000 o gwsmeriaid ledled Caerdydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ‘ eich helpu i i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref’ wrth wraidd popeth yr oeddem yn bwriadu ei gyflawni. Mae ein staff medrus, angerddol ac ymroddedig yn sicrhau eu bod yn darparu’r gwasanaeth o’r ansawdd gorau, gan sicrhau lles ein holl gwsmeriaid bob amser.

Darllenwch yr adroddiad llawn
Fall Prevention

Wythnos Ymwybyddiaeth o Atal Cwympiadau

Mae Teleofal Caerdydd yn darparu dyfeisiau i bobl yng Nghaerdydd sy’n canfod pan fyddant wedi cwympo. Yna mae’r dyfeisiau hyn yn cysylltu â’r Ganolfan Monitro Larymau lle mae swyddogion yn barod i gefnogi’r cwsmer 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae 55% o’r 2,571 achos o gwympo a fynychodd Teleofal Caerdydd eleni wedi bod yn gysylltiedig â diffyg cydbwysedd. Dysgwch fwy am y gwaith y mae Teleofal Caerdydd yn ei wneud i atal cwympiadau

Darllenwch yr adroddiad llawn

Adroddiad Blynyddol 2021/22

Mae Teleofal yn rhoi’r cymorth, y diogelwch a’r sicrwydd y mae cwsmeriaid eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys tenantiaid y Cyngor, perchenogion tai a’r bobl hynny sy’n rhentu yn y sector preifat.

Darllenwch yr Adroddiad 2021/22 llawn

Pryd ar Glud Adroddiad Blynyddol 2021/22

Mae ein tîm Pryd ar Glud yn cynnig prydau poeth a maethlon i gwsmeriaid ledled y ddinas a gallwch hunangyfeirio at y gwasanaeth neu gall teulu, ffrindiau a chymdogion gyfeirio pobl heb orfod cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Darllenwch yr Adroddiad 2021/22 llawn

Cronfa Gofal Integredig

Mae Teleofal Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cynnig gan y Gronfa Gofal Integredig. Mae’r cynnig yn cyfateb i gyfanswm o £450,000, sydd i’w dalu dros gyfnod o dair blynedd. Bydd hyn yn galluogi Teleofal Caerdydd i gynnig offer am ddim i bob defnyddwyr gwasanaeth posibl newydd. Ni fydd yr offer yn gyfyngedig i’r crogdlws a’r Larwm Achub yn unig, ond bydd ar gyfer pob dyfais yn ein stocrestr. Bydd hyn yn cynnwys yr holl synwyryddion ymylol megis synwyryddion mwg, synwyryddion carbon monocsid a synwyryddion gwely, ymysg eraill.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Adroddiad Blynyddol 2019/20

Mae Teleofal yn rhoi’r cymorth, y diogelwch a’r sicrwydd y mae cwsmeriaid eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys tenantiaid y Cyngor, perchenogion tai a’r bobl hynny sy’n rhentu yn y sector preifat. Bydd Teleofal yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Mehefin 2020!

Darllenwch yr Adroddiad 2019/20 llawn

Atal Cwympiadau

Bydd y strategaeth hon yn edrych ar wahanol ymagweddau a dulliau y bydd Teleofal Caerdydd yn ystyried eu gweithredu a’u mabwysiadu dros y 3 blynedd nesaf. Caiff projectau penodol eu lansio er mwyn lleihau cyfanswm
nifer y cwympiadau a gwneud y mwyaf o’r posibilrwydd i’n defnyddwyr aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae Teleofal Caerdydd yn ymateb i nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chwympiadau bob dydd ac maent mewn sefyllfa unigryw i achosi newid cadarnhaol i ddinasyddion Caerdydd, gan ddefnyddio Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) fel galluogwr.

Darllenwch yr Adroddiad Atal Cwympo llawn
Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd