Amdanom Ni

Amdanom Ni

Pan ddewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd, cewch larwm crogdlws ac uned ymateb y gallwch eu defnyddio i gysylltu â ni os ydych yn cael trafferthion.

Darperir ein gwasanaeth Pryd ar Glud ledled Caerdydd a Dwyrain y Fro, 365 diwrnod y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd, gan dawelu eich meddwl chi a’ch hanwyliaid.

Pwy ydyn ni?

Mae Teleofal Caerdydd a’r gwasanaeth Pryd ar Glud yn wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Caerdydd sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed, pobl anabl a thrigolion oedrannus i fyw’n annibynnol.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn rhoi ein cwsmeriaid yn gyntaf ac yn canolbwyntio ar ofal sy’n defnyddio technoleg. Ein nod bob amser yw rhoi’r cyngor gorau ar ein gwasanaethau a sut y gallwn gynnig pecynnau pwrpasol i helpu pobl i fyw’n fwy diogel yn eu cartrefi.

Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym am wneud y gwasanaeth yn unigryw i bob cwsmer fel eu bod yn cael y gofal gorau posibl gan y ddau wasanaeth.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol a theimlo’n ddiogel yn eu cartrefi. 

Mae gwasanaethau Teleofal Caerdydd a Phryd ar Glud ar gael 27/4, 365 diwrnod y flwyddyn, gan helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf yn ein cymuned.

Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i’n holl gwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael y lefel cywir o wasanaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae ansawdd yn bwysig i ni ac rydym yn defnyddio gwasanaethau allanol i fesur safon ein gwasanaeth gan gynnwys y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal (TSA). Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwasanaethau ac yn falch o fod wedi achredu’n llawn i ISO: 9001-2018.

Ein Blaenoriaethau

Parhau i roi ein cwsmeriaid wrth galon y gwasanaethau a ddarparwn.
Parhau i ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth o’r ansawdd uchaf un.
Gwneud mynediad i’n gwasanaethau yn llawer haws, yn gyflymach ac yn fwy cyfleus.

Yn 2019, fe wnaethom ymdrin â thros 254,000 o alwadau Teleofal

Dewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd

Pan ddewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd, cewch larwm crogdlws ac uned ymateb y gallwch eu defnyddio i gysylltu â ni os ydych yn cael trafferthion.

 

Mae ein gwasanaeth Larwm Teleofal yn helpu llawer o gyplau, a’r bobl hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain.  Mae symlrwydd wrth galon ein gwasanaeth larwm Teleofal 24-7, gan alluogi cwsmeriaid ledled Caerdydd i fod yn hyderus ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Cael mwy o wybodaeth ac ymgeisio

Pryd ar Glud

Mae Pryd ar Glud yn wasanaeth sy’n helpu’r henoed a phreswylwyr sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol.

Rydyn ni’n cyflenwi prydau poeth, maethlon sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o ddietau a chyflyrau. Bydd aelod o dîm Pryd ar Glud yn hapus i roi’r pryd ar blât i chi.

Darllenwch ragor am sut mae’r gwasanaeth yn mynd ati i

Darllenwch ragor am sut mae’r gwasanaeth yn mynd ati i
wasanaethu cwsmeriaid 365 diwrnod y flwyddyn
Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd