Symud o analog i ddigidol

Beth yw’r newid?

Mae darparwyr rhwydwaith ffôn ledled y DU yn gwneud newidiadau i’r system ffôn analog yr ydym i gyd wedi’i defnyddio ers blynyddoedd lawer. Mae’n cael ei disodli’n raddol gan system ddigidol fodern. Gelwir hyn yn uwchraddio digidol ac mae’n golygu dileu’r llinellau ffôn tir traddodiadol.

Mae’r newid digidol hwn eisoes wedi dechrau mewn rhai ardaloedd a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 2025. Pan fyddwch yn cael eich uwchraddio gan eich darparwr rhwydwaith bydd eich ffôn yn cael ei gysylltu â dyfais ddigidol yn hytrach nag yn uniongyrchol i mewn i soced wal y ffôn.

Pam mae hyn yn effeithio ar Teleofal?

Ni fydd galwadau fel galwadau larwm cymdeithasol yn gallu defnyddio systemau ffôn analog mwyach. Er enghraifft, os byddwch yn syrthio, byddech naill ai’n pwyso eich botwm larwm neu’n dibynnu ar synwyryddion awtomataidd yn eich cartref. Anfonir y larwm drwy’r system ffôn draddodiadol, i’n canolfan fonitro, lle bydd gweithredwr yn rhoi cyngor neu’n cael help.

Bydd angen i ni uwchraddio’r offer Teleofal sydd gennych yn eich cartref fel y gallwch barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth Teleofal. Mae’r offer hwn yn cysylltu eich galwadau larwm, drwy’r Rhyngrwyd, i’n canolfan fonitro. Bydd SIM wedi’i leoli yn yr uned a fydd yn sicrhau eich bod wedi’ch cysylltu i’r ganolfan reoli pe bai’r cysylltiad rhyngrwyd yn methu.

Sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi?

Os nad oes gennych offer teleofal digidol yn eich eiddo eto, byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn yn barod i newid eich offer.

Byddwn yn trefnu dyddiad i’n Swyddogion Cysylltu ddod i’ch eiddo, tynnu’r hen offer a gosod yr offer digidol.

Beth i'w wneud yn y cyfamser?

Os bydd eich darparwr ffôn yn uwchraddio eich gwasanaeth ffôn yn eich cartref, cysylltwch â ni ar 029 2053 7080 fel y gallwn drefnu i osod offer Teleofal digidol am ddim.

Efallai y bydd eich darparwr wedi rhoi addasydd i chi gadw eich offer Teleofal wedi’i gysylltu, fodd bynnag, nid yw’r rhain yn ddibynadwy a bydd dal angen i chi gael offer Teleofal digidol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pryd y bydd eich gwasanaeth ffôn yn cael ei uwchraddio, cysylltwch â’ch darparwr ffôn yn uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ac os hoffech siarad â’n tîm cyfeillgar, ffoniwch ni ar 029 2053 7080 neu anfonwch e-bost atom yn teleofal@caerdydd.gov.uk

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd