Yn eich helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref

Mae gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd a Theleofal Caerdydd yn helpu llawer o bobl ledled y ddinas i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Mae’r gwasanaethau’n helpu preswylwyr sy’n agored i niwed, pobl anabl a phreswylwyr oedrannus, ac mae ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.

Trefnwch alwad yn ôl
Sut gall Teleofal weithio yn eich cartref chi

Canolfan Gyswllt 24/7

Yn eich helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref.

Mae gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd a Theleofal Caerdydd yn helpu llawer o bobl ledled y ddinas i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Mae’r gwasanaeth ar gael 365 diwrnod y flwyddyn ac yn darparu ar gyfer preswylwyr anabl, oedrannus ac sy’n agored i niwed.

Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth Pryd ar Glud yn darparu dros 2,000 o brydau bwyd yr wythnos. Rydym yn cynnig prydau poeth, maethlon sy’n diwallu pob math o ofynion deietegol ac anghenion diwylliannol. Mae ein gwasanaeth fforddiadwy ar gael i holl breswylwyr Caerdydd a rhai rhannau o Fro Morgannwg.

Mae Teleofal Caerdydd yn ddolen 24 awr i’n Canolfan Derbyn Larymau a’n Huned Ymateb Symudol sy’n eich galluogi i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref, gyda rhywun i alw am help pan fydd ei angen arnoch. Rydym yn helpu dros 5,500 o gwsmeriaid ar draws y ddinas, ac mae ein gwasanaeth yn rhoi cymorth hanfodol i lawer o deuluoedd, cyplau a phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Cynhyrchion Teleofal

Barn ein cleientiaid

Rwy’n hapus iawn â’r gwasanaeth. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Dwi ddim wedi cael rheswm i’ch galw mas. Peth da yw fy mod yn dweud hynny ond mae gwybod eich bod chi yno’n tawelu fy meddwl i. Diolch yn fawr.-
Oherwydd fy nghyflyrau iechyd, mae Teleofal yn fy sicrhau nad yw help a chymorth yn bell os byddaf ei angen. Mae hefyd yn fy helpu i barhau i fod yn annibynnol yn fy nghartref. Rwy’n teimlo bod Teleofal yn wasanaeth pwysig iawn i mi ac i bobl eraill. Daliwch ati gyda’r gwaith da.-
Mae gwybod y byddai rhywun ar gael i fy helpu petawn i’n cael damwain yn gysur mawr. Rydych chi i gyd yn bobl hyfryd, diolch o galon – sefydliad gwych.-

Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau

    Skip to content

    © Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd