O gludo bwyd yn rheolaidd, mae aelodau’r tîm Pryd ar Glud yn dod i adnabod eu cleientiaid yn dda iawn. Os sylwn ni bod rhywbeth o’i le, yna gallwn wneud rhywbeth i helpu.
Mae ein staff wedi’u hyfforddi i ofalu am bobl hŷn ac wedi cael hyfforddiant arbenigol ynghylch ymwybyddiaeth o dementia. Mae pob aelod o’r tîm Pryd ar Glud wedi pasio gwiriad cofnod yr heddlu a byddan nhw bob amser yn gwisgo eu bathodyn adnabod a’u gwig gwaith.
Os na fyddwch yn dod at y drws, neu os na fyddwch yn y tŷ pan ddeuwn i gludo’r pryd bwyd, byddwn yn cysylltu â’ch teulu, eich ffrindiau neu’ch cymdogion i wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn.
Yn achlysurol, rydym yn dod o hyd i’n cleientiaid ar ôl iddynt gwympo neu ar ôl cael damwain. Os digwydd hyn, bydd ein tîm yn aros gyda chi nes bod help yn cyrraedd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys a safonau masnach. Os yw’r tîm yn pryderu am eich diogelwch, mae gennym gysylltiadau cyfredol yn eu lle fel y gallwn gyfeirio unrhyw faterion at y tîm cywir.
Mae’r tîm Pryd ar Glud yn gweithio gyda Teleofal Caerdydd sydd ag amrywiaeth o synwyryddion a larymau i wneud i chi deimlo’n fwy diogel yn eich cartref eich hun.