Hysbysiad preifatrwydd

Mae Teleofal Caerdydd yn gyswllt ffôn 24 awr â’n huned larwm teleofal sy’n eich galluogi i gadw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eich cartref eich hun. Mae Teleofal yn cynnig technolegau cynorthwyol, fel arfer larwm Lifeline (larwm canolog) a dyfeisiau perifferol cysylltiedig sy’n sbarduno galwadau larwm.  Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, larymau gwddf, synwyryddion cwympo, larymau mwg, synwyryddion gwely a synwyryddion drysau.   

Mae ein tîm Pryd ar Glud yn dosbarthu prydau poeth a maethlon i gwsmeriaid ledled y ddinas a gallwch atgyfeirio eich hun i’r gwasanaeth neu gael eich atgyfeirio gan deulu, ffrindiau a chymdogion heb orfod cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae’r gwasanaeth fforddiadwy hwn yn gwasanaethu pobl o bob oed a gallwch archebu prydau unigol, o bryd i’w gilydd, neu mor aml ag yr hoffech eu derbyn.  

Mae Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn rhan o Gyngor Caerdydd, Rheolydd y Data at ddibenion casglu data. Mae’r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac mae’n esbonio sut mae Teleofal a Pryd ar Glud yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych. 

Caiff yr holl wybodaeth a gesglir ei phrosesu yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. 

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn: 

  • Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni ar gyfer y gwasanaeth Teleofal Caerdydd a/neu Pryd ar Glud 
  • Pan fydd Gweithiwr Cymdeithasol a benodwyd i chi’n cyflwyno cais er mwyn i Teleofal Caerdydd a/neu Pryd ar Glud gael ei ddarparu fel gwasanaeth 
  • Pan fydd y Gwasanaethau Byw’n Annibynnol, meddyg teulu (neu weithiwr iechyd proffesiynol arall) neu weithiwr gofal eilaidd proffesiynol yn cyflwyno cais i Teleofal Caerdydd a/neu Pryd ar Glud gael ei ddarparu fel gwasanaeth 
  • Pan fydd Teleofal Caerdydd yn cynnal ein gwiriad lles blynyddol ar eich pen-blwydd byddwn yn casglu gwybodaeth newydd am gyflyrau iechyd, meddyginiaethau a gymerir, cysylltiadau, ac unrhyw newidiadau eraill sy’n gysylltiedig â’ch meddygfa neu’ch Asiantaeth Gofal. 

Efallai y bydd Teleofal Caerdydd hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol: 

  • Drwy’r larwm Lifeline a osodwyd, os oes synwyryddion ymddygiadol wedi’u gosod (fel symud, synwyryddion drysau a phlygiau clyfar) 

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?

Mae Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn casglu’r data canlynol: 

  • Gwybodaeth adnabod bersonol, gan gynnwys eich enw, eich dyddiad geni a’ch rhif adnabod 5 digid unigryw 
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad eich cartref, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn 
  • Manylion cyswllt ar gyfer aelod enwebedig o’r teulu, ffrind neu gymydog, a fydd yn bwynt cyswllt i ni mewn argyfwng os byddwch wedi actifadu eich larwm teleofal 
  • Rhif eich blwch allweddi, os byddwch yn dewis derbyn ein gwasanaeth wardeniaid symudol, rhag ofn y bydd argyfwng lle rydych wedi actifadu eich larwm teleofal neu os canfuwyd eich bod wedi cwympo 
  • Gwybodaeth eich meddyg teulu, a gesglir er mwyn cysylltu ag ef os bydd argyfwng meddygol 
  • Gwybodaeth am eich asiantaeth gofal, a ddefnyddir i gysylltu â hi mewn argyfwng sydd angen ei sylw, er enghraifft ei bod yn hwyr yn ymweld â chi 
  • Gwybodaeth ariannol, fel budd-daliadau a dderbynnir neu ostyngiad y Dreth Gyngor, a ddefnyddir i asesu a ydych yn gymwys i gael gwasanaeth am ddim neu ffi ostyngol 

Rydym hefyd yn casglu’r data Categori Arbennig canlynol: 

  • Data Anabledd, a ddefnyddir gennym os bydd angen i ni gysylltu â’r Gwasanaeth Ambiwlans neu weithiwr gofal sylfaenol proffesiynol fel eich meddyg teulu 
  • Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol, a ddefnyddir gennym os bydd angen i ni gysylltu â’r Gwasanaeth Ambiwlans neu weithiwr gofal sylfaenol proffesiynol fel eich meddyg teulu.  Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â gweithiwr gofal eilaidd proffesiynol, fel Ffisiotherapydd neu Therapydd Galwedigaethol drwy’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol. 
  • Tarddiad hiliol/ethnig a Chrefydd, a gesglir er mwyn teilwra gwasanaethau i’ch anghenion.  Gallai hyn fod yn ddewis iaith ar gyfer cyfathrebu neu sgyrsiau, a hefyd yn ofynion dietegol ar gyfer ein gwasanaeth Pryd ar Glud  

Cesglir gwybodaeth amdanoch chi a’ch iechyd er mwyn darparu’r Gwasanaethau Teleofal a Pryd ar Glud yn y modd gorau posibl. Defnyddir manylion cyswllt i gysylltu ag unigolion enwebedig mewn argyfwng   

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn casglu eich data fel y gallwn: 

  • Roi’r cymorth angenrheidiol yn achos argyfwng, lle rydych wedi cael damwain neu’n sâl.  
  • Tawelu meddwl eich cysylltiadau enwebedig eich bod yn ddiogel ac yn iach yn eich cartref eich hun 
  • Cysylltu’n rhagweithiol â gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol (Meddygfa) os teimlwn fod angen eu help arnoch.  
  • Darparu gwasanaethau dan gontract i chi (h.y. Teleofal neu Pryd ar Glud)  

Mae cael teleofal wedi’i osod yn eich cartref yn golygu y cawn ein rhybuddio ar unwaith os byddwch mewn argyfwng.  Mae hyn yn cynnwys os ydych wedi cwympo neu’n sâl.  Rydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda’ch gofalwr ffurfiol (os oes un gennych), neu eich cyswllt enwebedig (aelod o’r teulu/ffrind) y rhoddwyd ei fanylion i ni gennych chi pan gofrestroch i ddefnyddio’r gwasanaeth.   

Os yw ein gyrrwr Pryd ar Glud yn ceisio dosbarthu eich pryd bwyd ond heb fod yn llwyddiannus, bydd yn naturiol yn pryderu am eich diogelwch. Bydd yn hysbysu’r swyddfa a fydd yn ceisio cysylltu â’ch cyswllt enwebedig (aelod o’r teulu/ffrind) y rhoddwyd ei fanylion i ni gennych chi pan gofrestroch i ddefnyddio’r gwasanaeth.  

Marchnata

Efallai y bydd Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a’n gwasanaethau. 

Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser optio allan yn ddiweddarach drwy dynnu eich caniatâd yn ôl. Cytunir ar y caniatâd hwn wrth wneud cais naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy atgyfeiriwr trydydd parti. 

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata mwyach, cysylltwch â ni yn teleofal@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch ni ar 029 2053 7080. 

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Gallai eich data personol gael ei rannu gydag unrhyw o’r sefydliadau partner a restrir isod;  

  • Gwasanaethau Byw’n Annibynnol (Cyngor Caerdydd) 
  • GIG Cymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro os oes angen i ni gysylltu â’ch meddyg teulu neu Wasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd argyfwng meddygol neu atgyfeiriad ymlaen i’r clinigau acíwt neu eiddilwch.  
  • Eich Asiantaeth Gofal gofrestredig (os oes un gennych) os oes angen i ni gysylltu â hi ar eich rhan, neu ar ran eich teulu, eich ffrindiau, eich cysylltiadau dynodedig 
  • Eich meddyg teulu oherwydd argyfwng meddygol 
  • Heddlu De Cymru 
  • Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd argyfwng meddygol 
  • Gwasanaeth Tân De Cymru oherwydd argyfwng yn eich cartref yn cynnwys synhwyrydd mwg wedi’i actifadu 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili at ddibenion anghenion adfer wedi trychineb. 
  • Yokeru at ddibenion galwadau deallusrwydd artiffisial.  
  • Gofal a Thrwsio at ddibenion gosod y blwch allweddi’n ddiogel ar gyfer ein Gwasanaeth Ymateb Symudol.  
  • Ein Darparwyr Platfform – Enovation ar gyfer Teleofal a Smartt Solutions ar gyfer Pryd ar Glud ar gyfer cynnal a chadw meddalwedd a diweddariadau.  

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Mae Teleofal Caerdydd yn storio eich data’n ddiogel ar ei weinyddwyr yn ogystal â gweinyddwyr trydydd parti a gyflenwir fel rhan o’n platfform monitro teleofal. 

  • Ar gyfer cwsmeriaid sy’n gadael y gwasanaeth, y cadw yw pan fydd y cyfrif yn cael ei derfynu neu 5 mis ar ôl iddynt gadarnhau eu bod yn gadael y gwasanaeth.   
  • Mae data cwsmeriaid byw yn cael ei gadw nes bod y cyfrif yn cael ei derfynu.  
  • Os daw cais i mewn am Hawl i gael eich anghofio (HGA) mae’r data yn cael ei dynnu ar unwaith.  
  • Bydd hanes galwadau ac archifo yn cael eu cadw am y flwyddyn gyfredol + 6.  
  • Mae recordiadau galwadau yn cael eu cadw hyd at y cyfredol sef 12 mis 
  • Hysbysiad o ddigwyddiadau, anafiadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, neu honiadau o gamymddwyn (ffeiliau achos) – yn cael eu cadw o ddyddiad y digwyddiad y flwyddyn gyfredol +6. 

Os bydd ymrwymiadau ariannol yn parhau, yna efallai y bydd Cyngor Caerdydd yn cadw eich data hyd nes y bodlonir y rhain. Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data trwy ddileu eich cofnod o’n cronfa ddata neu drwy olygu eich cofnod. 

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:  

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud am gopïau o’ch data personol.  

Yr hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi. 

Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud ddileu eich data personol, dan rai amodau.  

Yr hawl i gyfyngu prosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud brosesu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau. 

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy’r dulliau isod:  

E-bostiwch ni yn:  teleofal@caerdydd.gov.uk  

Ffoniwch ni ar: 029 2053 7080 

Neu ysgrifennwch atom:  Ystafell 249, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW 

Ein sail gyfreithlon

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu ragor o’r canlynol:  

  • Contract, lle rydych chi neu aelod o’ch teulu wedi ymrwymo i gontract gyda ni er mwyn derbyn y gwasanaethau Teleofal a/neu Pryd ar Glud 
  • Tasg Gyhoeddus – ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael eu cyfeirio i’n gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac ar gyfer cyfeirio i’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol.  
  • Caniatâd, lle rydych wedi rhoi caniatâd i gael eich cyfeirio i dderbyn gwasanaethau ychwanegol neu ohebiaeth farchnata 
  • Buddiant allweddol i fywyd, lle mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth mewn argyfwng 
  • Pan fydd prosesu’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi  
  • At ddibenion ein buddiannau dilys 

Sut i reoli cwcis

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny. 

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein  polisi preifatrwydd llawn (Cyngor Caerdydd).

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Mae Teleofal Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2025. 

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Teleofal Caerdydd a Pryd ar Glud neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech chi arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni. 

E-bostiwch ni yn: teleofal@caerdydd.gov.uk  

Ffoniwch ni:  029 2053 7080 

Neu ysgrifennwch atom: Teleofal Caerdydd, Ystafell 249, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW 

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech chi gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Teleofal Caerdydd a/neu Pryd ar Glud wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.   

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd