Ein pecynnau

Ein pecynnau

Mae ein pecynnau offer wedi’u dylunio i’ch helpu i fyw bywyd annibynnol a hirach gartref.

Nid oes angen llinell dir gartref arnoch i ddod yn gwsmer Teleofal Caerdydd. Pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch ddewis pa becyn sy’n addas i chi a’ch anghenion a lefel y gwasanaeth sydd ei hangen arnoch.

Pan fyddwch yn dod yn gwsmer Teleofal Caerdydd, byddwn yn eich cyfeirio at Gofal a Thrwsio am flwch allweddi diogel, yn rhad ac am ddim. Mae blwch allweddi diogel yn flwch diogel bach sydd wedi’i osod ar y tu allan i’ch cartref ac sy’n storio hyd at 3 allwedd.

Bydd ein Hymatebwyr Symudol yn defnyddio cod unigryw i agor y blwch allweddi diogel ac yna gallant fynd i mewn i’ch cartref i roi cymorth i chi. Bydd y cod unigryw hwn yn cael ei storio’n ddiogel yn y ganolfan fonitro.

Pecyn Blynyddol Larwm Teleofal

AM DDIMy flwyddyn

Pecyn Blynyddol Larwm Teleofal yw’r pecyn larwm gwerth gorau yr ydym yn ei gynnig. Trwy dalu unwaith y flwyddyn, byddwch yn arbed hyd at £20 ar gost flynyddol y system, o’i gymharu â’n cynllun misol.

Mae’r pecyn yn cynnwys rhentu’r offer Teleofal a monitro 24 awr o’n canolfan fonitro.
£124 y flwyddyn ynghyd â ffi sefydlu o £39.

Larwm GSM

AM DDIMy flwyddyn

Mae’r larwm GSM yn eich galluogi i gael eich diogelu gan ein gwasanaeth Teleofal, hyd yn oed os nad oes gennych linell dir. Yn hytrach, mae’r larwm GSM yn defnyddio cerdyn SIM i gysylltu ei hun â rhwydwaith ffôn symudol. Bydd y ddyfais yn chwilio am y signal cryfaf gan ystod o ddarparwyr ac yn cysylltu â’r prif rwydwaith. Does dim angen poeni am y cerdyn SIM, rydym yn anfon ein holl larymau GSM gyda’r cerdyn SIM eisoes wedi’i osod yn llawn.

£195 y flwyddyn ynghyd â ffi sefydlu o £39

Teleofal Everywhere

AM DDIMy flwyddyn

 

Mae Teleofal Everywhere yn ddyfais larwm personol sy’n wahanol. Mae’n cynnwys lleolwr GPS, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr alw am gymorth i’w union leoliad mewn argyfwng. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl oedrannus neu anabl sydd am fyw yn egnïol ac yn annibynnol. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i bobl â dementia neu gyflyrau tebyg a allai fod yn dueddol o grwydro.

£305 y flwyddyn ynghyd â ffi sefydlu o £39.

Yn Teleofal Caerdydd, rydym yn deall pa mor bwysig yw aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun. Mae ein Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (GAD) yn caniatáu i lawer o breswylwyr hŷn ac agored i niwed barhau i fyw’n ddiogel gartref, gan oedi’r angen i fynd i mewn i ofal preswyl, a gwella ansawdd bywyd.
Os ydych yn berson hŷn neu agored i niwed sydd mewn perygl o gwympo, gall ein Pecynnau Cwympiadau gynnig opsiynau GAD sy’n gweddu i’ch anghenion penodol.

Pan fyddwch wedi dewis pecyn addas, bydd ein swyddogion yn dod i’ch eiddo i osod a chysylltu eich dyfeisiau. Byddant yn:

trafod ein gwasanaeth gyda chi,
dangos i chi sut mae’r dyfeisiau’n gweithio, a
dangos i chi sut i alw am help.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein pecynnau a’n cynnyrch Cwympiadau, cysylltwch â ni.

Pecyn cwympiadau 1

Pris y pecyn:

AM DDIM
Mae pecyn Cwympiadau 1 yn cynnwys uned ddigidol Reach IP a Synhwyrydd Cwympo Dynamig. Mae’r ddwy ddyfais yn cysylltu â’n canolfan derbyn larymau, lle bydd larwm argyfwng yn cael ei seinio os byddwch yn cwympo.

Uned ddigidol Reach IP

Os byddwch yn cael eich hun mewn trafferthion, gallwch bwyso’r botwm coch ar yr uned ddigidol i seinio’r larwm. Bydd hyn yn cysylltu’n gyflym â’n canolfan derbyn larymau, lle gall aelod o’r tîm eich sicrhau nes bydd help yn cyrraedd.

Synhwyrydd Cwympo Dynamig

Mae’r Synhwyrydd Cwympo Dynamig yn cael ei wisgo ar eich garddwrn ac mae’n gydnaws â’r uned ddigidol Reach IP. Gall synhwyro unrhyw newidiadau cyflymder sy’n gysylltiedig â chwympo, a hefyd synhwyro’r effaith y mae’r cwymp wedi’i chael. Pan fydd cwymp yn cael ei synhwyro, bydd larwm yn cael ei anfon i’n canolfan dderbyn. Mae gan y synhwyrydd cwympo fotwm larwm hefyd y gallwch ei bwyso eich hun i actifadu larwm argyfwng.

*Gall prisiau amrywio neu gallant newid.

Pecyn cwympiadau 2

Pris y pecyn:

AM DDIM
Mae Pecyn Cwympiadau 2 yn cynnwys uned ddigidol Reach IP, Synhwyrydd Cwympo Dynamig, a synhwyrydd gwely. Mae pob un o’r dyfeisiau hyn wedi’u cysylltu â’n canolfan derbyn larymau.

Uned ddigidol Reach IP

Os byddwch yn cael eich hun mewn trafferthion, gallwch bwyso’r botwm coch ar yr uned ddigidol i seinio’r larwm. Bydd hyn yn cysylltu’n gyflym â’n canolfan derbyn larymau, lle gall aelod o’r tîm eich sicrhau nes bydd help yn cyrraedd.

Synhwyrydd Cwympo Dynamig

Mae’r Synhwyrydd Cwympo Dynamig yn cael ei wisgo ar eich garddwrn ac mae’n gydnaws â’r uned ddigidol Reach IP. Gall synhwyro unrhyw newidiadau cyflymder sy’n gysylltiedig â chwympo, a hefyd synhwyro’r effaith y mae’r cwymp wedi’i chael. Pan fydd cwymp yn cael ei synhwyro, bydd larwm yn cael ei anfon i’n canolfan dderbyn. Mae gan y synhwyrydd cwympo fotwm larwm hefyd y gallwch ei bwyso eich hun i actifadu larwm argyfwng.

Synhwyrydd gwely

Bydd y synhwyrydd gwely yn anfon galwad larwm allan os nad yw wedi synhwyro unrhyw symudiad dros gyfnod penodol o amser. Er enghraifft:

nid ydych wedi mynd i mewn i’r gwely,
nid ydych wedi codi o’r gwely, neu
nid ydych wedi mynd yn ôl i’r gwely ar ôl codi yn y nos.

Gall y synhwyrydd gwely gael ei osod oddi tano, neu ar ben eich matres. Os yw eich gwely’n fawr, efallai y bydd angen dau synhwyrydd arnoch.
*Gall prisiau amrywio neu gallant newid.

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd