Beth yw’r Synhwyrydd Mwg?
Pan mae’n synhwyro mwg, bydd y synhwyrydd mwg optegol di-wifr yn canu dwy larwm. Yn gyntaf, larwm clywadwy lleol ac yn ail, bydd signal hanfodol yn cael ei anfon yn awtomatig i’r unedau cartref Lifeline a systemau teleofal Tunstall eraill. Bydd hyn yn ei dro yn anfon galwad ar unwaith i’r ganolfan fonitro 24 awr a bydd gweithredwr profiadol yn rhoi gwybod i’r gwasanaethau brys. Oherwydd bod y broses yn awtomatig ac yn digwydd ar unwaith, mae llai o risg i fywyd ac eiddo. Mae’r synhwyrydd yn defnyddio technoleg ddiwifr felly mae’n tarfu lleiaf bosib ar y gosodiadau a ffitiadau yn ystod y broses osod a gellir dod o hyd i’r synwyryddion yn hawdd os oes angen gwneud hynny.
Beth yw Manteision y Synhwyrydd Mwg?
- Un batri – sy’n rhedeg y synhwyrydd a’r trosglwyddiad radio
- Hysbysu yn awtomatig os bydd y batri yn isel – mae’r synhwyrydd yn cefnogi swyddogaeth ALB
- 1 batri am oes – mae disgwyl i’r batri a gyflenwir bara am 10 mlynedd
- Achredwyd i EN14604:2009 – y safon ddiweddaraf ar gyfer synwyryddion mwg
Sut mae’r Synhwyrydd Mwg yn gweithio?
O’i droi ymlaen, mae’r synhwyrydd mwg yn trosglwyddo galwad larwm drwy amlder larwm cymdeithasol Ewropeaidd pwrpasol i systemau teleofal wedi’u galluogi. Yna, bydd y rhain yn anfon galwad awtomatig i’r ganolfan fonitro neu ofalwr i alluogi’r derbynnydd i
Ar gyfer pwy mae’r Synhwyrydd Mwg?
Mae’r synhwyrydd mwg ar gyfer unrhyw un sydd mewn perygl yn eu cartref ac sy’n awyddus i gael tawelwch meddwl ychwanegol.
Comments are closed.