Mae Mr P yn 74 oed ac mae wedi cael llawer o broblemau iechyd yn dilyn strôc. Daeth cymydog ar ei draws yn ei ardd gefn.
Yr Her
Roedd cyflwr iechyd Mr P yn golygu bod rhaid iddo aros yn yr ysbyty am rai misoedd. Ar un adeg, teimlwyd y byddai’n rhaid ei anfon o’r ysbyty i ofal preswyl gan na fyddai’n ddiogel iddo ddychwelyd i’w gartref ar ei ben ei hun.
Roedd Mr P a’i deulu oll yn awyddus iddo gael y cyfle i ddychwelyd i’r cartref yr oedd wedi gweithio mor galed i’w gael.
Yr Ateb
Gosodwyd system teleofal yng nghartref Mr P, gan gynnwys:
- Synhwyrydd gwely a fyddai’n rhoi gwybod i’r ganolfan fonitro petai’n codi o’i wely heb ddychwelyd o fewn 30 munud rhwng 10pm a 7am.
- Synhwyrydd Gadael yr Eiddo Synhwyrydd gadael eiddo. Byddai’r ganolfan yn rhoi gwybod i chwaer Mr P sy’n byw gerllaw os na fyddai Mr P yn dychwelyd i’w gartref cyn amser penodol.
- Synwyryddion a fydd yn rhoi gwybod i’r ganolfan am ddigwyddiadau fel llifogydd neu dân.
- Crogdlws, a fydd yn galw am gymorth ar unwaith os yw’n canfod bod Mr P wedi cwympo.
Mae’r system hon wedi’i chysylltu â pheiriant galw a fydd yn rhoi gwybod i chwaer Mr P os bydd problem. Mae chwaer Mr P hefyd yn llenwi peiriant cyflenwi moddion ar ei ran, sy’n ei helpu i gymryd y moddion cywir ar yr adeg gywir bob dydd.
Y Canlyniad
Mae Mr P wedi gallu dychwelyd i’w gartref ei hun lle mae’n teimlo’n ddiogel a hapus. Mae’n agos at ei deulu a’r gymuned y mae wedi byw ynddi drwy gydol ei fywyd.
Mae ei chwaer yn gwybod y caiff wybod os bydd angen cymorth ar ei brawd, ond gall y ddau ohonynt barhau i fyw bywydau annibynnol.
Comments are closed.