Diogelu dioddefwyr trais domestig
Yr Her
Bydd trais domestig yn effeithio ar un o bob pedair menyw ac un o bob chwe dyn yn ystod eu bywydau ,a chaiff dwy fenyw eu lladd bob wythnos. Sut mae Teleofal Caerdydd yn helpu i gefnogi dioddefwyr trais domestig a rhoi modd hawdd iddynt ofyn am gymorth brys o unrhyw le yn y cartref, 24 awr y dydd?
Beth a wnaethom ni
Mae Miss C, 26 oed, yn ddioddefwr cais domestig sy’n byw gyda’i mab 2 flwydd oed. Roedd ei chynbartner ar fin cael ei ryddhau o’r carchar ac roedd wedi torri i mewn i’w heiddo o’r blaen gydag arf. Roedd Miss C yn bryderus iawn ac yn poeni am ei diogelwch hi a diogelwch ei mab.
Gosodwyd system teleofal yn ei chartref. Roedd hon yn cynnwys uned GSM Llinell Fywyd nad oes angen cyswllt llinell ddaear arni felly gellir ei defnyddio yn unrhyw le, a chrogdlws GEM sy’n gweithio fel botwm panig symudol. Gall Miss C gadw’r botwm GEM gyda hi ar bob adeg a’i wasgu os oes angen help arni. Waeth lle mae hi yn y cartref, os caiff y GEM ei wasgu bydd yn codi larwm yng Nghanolfan Reoli Teleofal Caerdydd ac yn deialu’n fud trwy’r GSM Llinell Fywyd. Yna gall gweithredwyr hyfforddedig glywed gweithgarwch yn y cartref a siarad â Miss C trwy’r uned Llinell Fywyd, os yw hynny’n briodol. Bydd y system hefyd yn cofnodi unrhyw alwadau a chaniateir y dystiolaeth hon yn y llys os bydd ei hangen.
Bum mis ar ôl gosod y system, cafodd y Ganolfan Reoli alwad gan Miss C trwy’r uned Llinell Fywyd. Nid oedd y gweithredwr yn gallu clywed dim ac felly dilynodd y protocol a ffoniodd 999. Ymatebodd yr heddlu ar unwaith gan gyrraedd tŷ Miss C yn gyflym i ddod o hyd i’w chynbartner yn ceisio torri trwy’i drws blaen i gael mynediad.
Canlyniadau
Ffodd cynbartner Miss C o’r safle cyn gynted ag y cyrhaeddodd yr heddlu a chafodd ei arestio’n ddiweddarach. Cafodd drws blaen Miss C ei atgyweirio ac mae hi bellach yn ddiogel ac yn parhau i fod â’r tawelwch meddwl y bydd cymorth yn cyrraedd yn gyflym os bydd hi’n gwasgu botwm ei GEM. Oherwydd bod y system ar waith yn ei thŷ, cafodd Miss C help yn ddigon cyflym i osgoi cael niwed iddi’i hun ac i’w mab. Mae hyd yn bosibl bod y system wedi achub ei bywyd.
Efallai na all dioddefwyr gael hyd i ffôn neu ei weithredu yn ystod achos o drais domestig. Mae’r system deleofal yn eu galluogi i wasgu un botwm y gallent gario gyda nhw trwy’r amser a gwybod y bydd help yn cyrraedd eu cartref cyn gynted â phosib, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu cyfathrebu.
Comments are closed.