Beth yw’r Botwm Galwr Digroeso?
Gall Botwm Galwr Digroeso dawelu’ch meddwl os bydd rhywun annisgwyl yn galw. Gallwch ei ddefnyddio i ofyn am help a gallwch drefnu ei fod yn ymateb i lais drwy’r uned Lifeline. Cofnodir y math hwn o ddigwyddiad yn awtomatig a gellir defnyddio’r cofnod fel tystiolaeth.
Beth yw Manteision y Botwm Galwr Digroeso?
- Gellir ei leoli yn unrhyw le yn yr eiddo a’i ddefnyddio fel pendant statig
- Mae’n dal dŵr a gellir ei osod yn yr ystafell ymolchi
- Mae’r botwm galwr digroeso yn ddisylw ac mae modd agor modiwl llafar i’w ddefnyddio os yw’n berthnasol.
Sut Mae’r Botwm Galwr Digroeso’n Gweithio?
Os daw galwr amheus i’r adeilad, gall y preswylydd bwyso ar y Botwm Galwr Digroeso er mwyn anfon galwad i Dîm Teleofal Caerdydd. Bydd galwad yn mynd i’r Ganolfan Reoli a bydd un o’n swyddogion cymwys iawn yn ateb yr alwad. Byddan nhw’n gwrando’n astud ac yn galw’r Heddlu neu’r Warden Symudol.
Ar gyfer pwy y mae’r botwm?
- Unrhyw un â hanes o fod yn darged gan fasnachwyr twyllodrus
- Unrhyw un sy’n teimlo dan fygythiad gan Fasnachwyr Twyllodrus
- Pobl sy’n byw mewn ardaloedd y mae Masnachwyr Twyllodrus wedi eu targedu o’r blaen
- Unrhyw un a hoffai dawelu ei feddwl ynghylch troseddau wrth ddrws y cartref.
Comments are closed.