Galluogi rhyddhau o’r ysbyty
Yr Her
Mae Mrs J wedi bod yn yr ysbyty ers 1 Mehefin 2018 ar ôl iddi gwympo. Roedd ei theulu’n teimlo na fyddai ymweliadau gofal yn ddigon i’w chadw’n ddiogel gartref. Cysylltodd Gweithiwr Cymdeithasol â Teleofal Caerdydd i weld a allai technoleg helpu Mrs J i fynd adref.
Beth a wnaethom ni
Aeth Teleofal Caerdydd i gyfarfod rhyddhau yn yr ysbyty, gyda staff clinigol, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a’r rheolwr gofal cartref. Gwnaethant drafod sut gallai Mrs J ddychwelyd adref. Roedd y prif bryderon yn gysylltiedig â symud Mrs J o’i gwely yn y bore i’r gadair yn ystod y dydd ac yna yn ôl i’r gwely yn y nos. Tybiwyd y gallai Mrs J gwympo yn ystod y dydd neu’r nos, ac na fyddai’n gallu canu’r larwm pe bai angen.
Awgrymodd Teleofal Caerdydd y gallai system gael ei gosod yn cynnwys uned Lifeline wedi’i chysylltu â synhwyrydd meddiannu gwely rhithwir a synhwyrydd meddiannu cadair rhithwir. Petai Mrs J yn gadael ei gwely neu’r gadair, byddai’r uned yn dechrau cyfrif i lawr o 30 munud. Ar ôl i 30 munud basio, os na fydd Mrs J wedi llwyddo i ddychwelyd yn ddiogel i’r gwely neu’r gadair, byddai larwm yn canu yng Nghanolfan Reoli Teleofal Caerdydd. Yna byddai Gweithredwr y Ganolfan Reoli yn anfon Warden Symudol i helpu Mrs J, fel arfer o fewn 20 munud.
Canlyniadau
Gosodwyd y system ym mis Tachwedd 2018, ac nid oes unrhyw alwadau brys wedi bod. Roedd Mrs J yn yr ysbyty am 176 diwrnod, ar gost o tua £70,000 i’r GIG. Bydd defnyddio Teleofal fel rhan o’i chefnogaeth i’w galluogi i ddod adref yn arbed £12,000 y mis i’r GIG, ac mae Mrs J yn teimlo’n fwy bodlon o lawer gartref.
Cyn cael fy rhyddhau o’r ysbyty, ro’n i’n deall petai rhywbeth yn digwydd/petawn i’n cwympo eto na allwn i ddibynnu ar aelodau o’r teulu i ymateb bob amser oherwydd eu hymrwymiadau gwaith a theulu. Ro’n i hefyd yn deall nad ydw i bob amser yn gallu cyrraedd y ffôn. Mae eich cymorth chi yn amhrisiadwy i fi. Ar ôl cyfnod mor hir yn yr ysbyty, dwi’n hynod o ddiolchgar o allu bod adref yn gysurus ac yn ddiogel, yn hytrach na threulio fy mlynyddoedd olaf mewn cartref gofal. Mrs J.
Comments are closed.