Mae Mr S yn wr 86 mlwydd oed â chlefyd Alzheimer sy’n byw ar ei ben ei hun. Mae ganddo deulu cefnogol iawn sy’n ymweld bob dydd, ac mae ganddo becyn gofal hefyd.
Yr Her
Byddai Mr S weithiau’n gadael y tŷ i fynd i siopa ar ei ben ei hun ac yna’n drysu’n lân. Roedd y teulu yn treulio llawer iawn o amser yn chwilio am Mr S ac roeddent yn cael nifer o alwadau gan gymdogion yn pryderu ynghylch ei ddiogelwch.
Yr Ateb
Ar ôl cwblhau asesiad, awgrymodd y tîm Teleofal y dylid gwneud y canlynol:
- Gosod Llinell Fywyd a chrogdlws i alluogi Mr S i alw am gymorth yn hawdd.
- Darparu synhwyrydd mwg a charbon monocsid a fyddai’n rhoi gwybod i’r ganolfan fonitro petai Mr S yn cael trafferthion wrth goginio.
- Gosod synhwyrydd gadael eiddo a fyddai’n rhoi gwybod i’r ganolfan fonitro os byddai Mr S yn gadael ei gartref a’i fod heb ddychwelyd o fewn amser penodol. Byddai’r ganolfan fonitro wedyn yn cysylltu â’r teulu fel y gallant ymateb.
Y Canlyniad
Mae teulu Mr S yn llai pryderus gan eu bod yn gwybod, os bydd problem, y bydd y ganolfan fonitro yn cysylltu â nhw, ac y gallant dreulio mwy o amser da gyda Mr S.
Mae Mr S yn hapusach gan ei fod yn teimlo’n ddiogelach yn ei gartref ac yn gwybod, os bydd yn poeni am rywbeth, y gall siarad â rhywun yn y ganolfan fonitro ar unrhyw adeg.
Comments are closed.