Beth yw Lifeline VI?
Gallwch alw am gymorth yn syth drwy bwyso’r botwm mawr coch ar flaen y Lifeline VI, neu drwy bwyso’r Crogdlws unrhyw le yn eich cartref neu’r ardd. Mae’r alwad yn cysylltu â Chanolfan Reoli Teleofal, sy’n gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 dydd y flwyddyn. Bydd Swyddog Galwadau’r Ganolfan Reoli’n cysylltu â chi trwy’r microffon mewnol ar flaen y Lifeline VI. Bydd y Swyddog yn eich cysuro chi a hefyd yn trefnu’r ymateb addas yn ôl natur yr alwad.
Beth yw manteision defnyddio’r Lifeline VI?
- Gall roi hysbyson atgoffa pan mae angen sicrhau bod y Crogdlws yn gweithio’n iawn a pan mae angen i’r defnyddiwr gymryd meddyginiaeth
- Mae modd ei roi ar wal neu i orwedd yn rhwydd
- Mae ansawdd llais gwell a dewis o ‘glosio at’ y llais
- Gellir gosod y Rheolwr Tymheredd fel ei fod yn anfon galwad larwm os yw’r ystafell yn rhy boeth/oer
- Y nod yn y pen draw yw cynorthwyo rhywun i fyw’n annibynnol yn hirach. Gallwch fod yn ffyddiog y bydd Lifeline VI+ yn eich cysylltu â’r Ganolfan Reoli ar unrhyw adeg.
Sut mae Lifeline VI yn gweithio?
Mae Lifeline VI+ yn derbyn ynni o’r prif gyflenwad, felly mae angen soced a phwynt teleffon gerllaw. Bydd eich gwifr ffôn yn mynd i gefn y Lifeline VI+ a bydd yr uned yn cysylltu â phlwg â’r prif gyfenwad yn ogystal ag i’r pwynt teleffon. Gweler y diagramau isod er eglurhad:
Ar gyfer pwy y mae Lifeline VI?
Pawb! Y Lifeline VI+ yw rhan ganolog system Teleofal. Gellir rhaglennu hyd at 32 synhwyrydd ar wahân i gyd-fynd ag ef, er mwyn tawelu meddwl anwyliaid y cwsmer.
Comments are closed.