Beth yw’r Crogdlws My Amie?
Mae’r Crogdlws My Amie yn fychan ac nid yw’n amlwg, mae wedi ei ddylunio er mwyn bod yn fwy cyfforddus i’n cwsmeriaid i’w wisgo. Gellir ei raglennu i gyd-fynd ag unedau Lifeline VI+, Lifeline VI, Connect a Connect+. Y nod yw tawelu’ch meddwl a’ch sicrhau y cewch ymateb os oes argyfwng.
Beth yw Manteision Crogdlws MyAmie?
- Mae 50% yn llai na’r crogdlws ‘Amie’ ac mae’r botwm yn fwy; mae hefyd yn ysgafnach
- Yn wahanol i grogdlysau eraill, gellir ei wisgo ar yr arddwn, ac mae dewis o ddau faint gwahanol
- Bydd yn hysbysu Canolfan Reoli Teleofal pan mae’r batri’n isel
- Bydd y batri’n parhau am hyd at 7 blynedd ac mae’r ddyfais yn dal dŵr
Sut mae’r Crogdlws MyAmie’n gweithio?
Gyda Chrogdlws MyAmie, gallwch anfon galwad larwm o’ch cartref neu o’r ardd. Gallwch wneud hyn trwy bwyso’r botwm mawr coch. Bydd y Crogdlws hefyd yn anfon signal radio (ar yr amledd larwm gymdeithasol benodedig) i uned gartref Lifeline a fydd wedyn yn anfon galwad at y Ganolfan Reoli.
Ar gyfer pwy mae Crogdlws MyAmie?
- Pobl hŷn, cleifion neu bobl anabl
- Pobl sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty
- Pobl sydd mewn perygl o ddioddef trais domestig, erledigaeth neu ladrata drwy ddwyn eich sylw
- Pobl sy’n byw mewn ardaloedd ble mae cyfradd uchel o drosedd
- Pobl o unrhyw oedran sy’n byw gartref ar eu pennau eu hunain
Comments are closed.