Beth yw Galwr CareAssist?
Mae’r CareAssist yn larwm teleofal cludadwy sy’n gallu derbyn hysbyson gan yr amryw synwyryddion teleofal sydd ar gael. Bydd y CareAssist yn dangos pa fath o synhwyrydd sydd wedi synhwyro bod rhywbeth o’i le. Yna, bydd y gofalwr yn cydnabod ac yn ymateb i’r sefyllfa. Bydd hefyd yn helpu i wella safon bywyd gofalwyr anffurfiol, ac yn rhoi’r gallu iddynt fyw yn fwy annibynnol.
Beth yw manteision defnyddio’r CareAssist?
- Mae’n cyd-fynd â hyd at 128 o synwyryddion teleofal
- Mae’n hawdd ei ddefnyddio gyda sgrin 2.4” OLED glir a llachar
- Mae’r CareAssist yn gwbl gludadwy, yn ddigon bychan i fynd i boced ac mae’n gweithio gyda batri
- Mae’n bosibl i’r CareAssist rybuddio’r gofalwr drwy sain, crynu a neges weledol.
Sut mae’r CareAssist yn gweithio?
Bydd y synwyryddion Teleofal wedi eu haseinio’n barod gan y Swyddog Teleofal ac wedi ei bennu ar gyfer naill ai rhywle yn yr adeilad neu ar gyfer preswylydd penodol. Pan mae’r synhwyrydd yn synhwyro bod rhywbeth o’i le, bydd y CareAssist yn crynu, gwichian a bydd y sgrin lachar yn goleuo. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’r gofalwr am y digwyddiad ac yna bydd yntau’n gallu edrych i weld pa synhwyrydd sydd wedi synhwyro bod rhywbeth o’i le. Mae ganddo gwmpas radio o hyd at 200 medr (heb rwystr).
Ar gyfer pwy mae Care Assist?
- Mae wedi’i ddylunio i helpu gofalwyr lleol i roi gofal anymwthiol o safon uchel.
- Ar gyfer pobl nad ydynt angen eu monitro gan ein Canolfan Reoli, mae’r CareAssist yn eu galluogi i fonitro eu hanwyliaid a bodloni eu hanghenion.
Comments are closed.