Beth yw’r Synhwyrydd Carbon Monocsid?
Mae’r synhwyrydd Carbon Monocsid yn synhwyrydd diwifr sy’n gweithio â’r uned larwm Lifeline neu’r Galwr Cynorthwyo Gofal. Mae’r synhwyrydd CO diwifr yn rhoi rhybudd yn syth pan fydd yn synhwyro allyriadau peryglus oherwydd simnai wedi ei thagu neu wall ar offer llosgi tanwydd. Mae’r synhwyrydd yn defnyddio technoleg ddiwifr felly mae’n tarfu lleiaf bosib ar y gosodiadau a ffitiadau yn ystod y broses osod a gellir dod o hyd i’r synwyryddion yn hawdd os oes angen gwneud hynny.
Beth yw Manteision Synhwyrydd Carbon Monocsid?
- Mae’n effeithiol hyd at 50 metr o bellter
- Mae disgwyl i’r batri bara am 7 mlynedd o ddyddiad cychwyn y batri.
- Mae’n edrych yn dda, mae’n gymharol fychan ac nid yw’n tarfu.
Ar gyfer pwy y mae’r botwm?
Dylai fod gan bawb synhwyrydd carbon monocsid yn eu cartref os oes ganddynt gyflenwad nwy actif yn yr eiddo. Y gwahaniaeth rhwng synhwyrydd CO arferol a Synhwyrydd CO Tunstall yw y bydd hwn yn galw’r Ganolfan Reoli yn ogystal â rhybuddio’r cwsmer pan fydd yn synhwyro’r nwy. Yna bydd y Swyddog Galwadau yn cynghori’r cwsmer i awyru’r eiddo gymaint â phosib ac o bosib yn ffonio’r cwsmer, yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth y mae’r cwsmer yn ei dderbyn. Bydd y Swyddog Galwadau hefyd yn ffonio’r Grid Cenedlaethol, ac mae arnynt ddyletswydd i ymateb o fewn awr. Wrth gyrraedd, byddant yn ‘diogelu’r’ eiddo cyn gadael.
Comments are closed.