Beth yw’r Synhwyrydd Cyffredinol?
Mae’r Synhwyrydd Cyffredinol yn galluogi dyfeisiau gwifr i drosglwyddo signal i uned gartref Lifeline a systemau eraill sy’n cyd-fynd â theleofal Tunstall, felly does dim angen cysylltu’r synhwyrydd â’r system. Felly gall dyfeisiau gwifr ac offer arall wneud galwadau larwm ac anfon negeseuon radio addas i’r uned gartref gan ddefnyddio’r dull Cysylltu â Goleuo. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel Synhwyrydd Defnyddio Drws drwy ddefnyddio’r cysylltiadau drws a roddir neu gysylltu Synwyryddion Nwy Naturiol diwifr ag unedau cartref.
Beth yw manteision defnyddio’r Synhwyrydd Cyffredinol?
- Mae’n syml – mae’n darparu dull syml o gysylltu’r synhwyrydd ag uned gartref Lifeline
- Mae’n hyblyg – gweithio gyda chysylltiadau sydd fel arfer ar agor neu ar gau (fel arfer mae’r ROM presennol ar agor yn unig) Mae hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i gysylltu’r synhwyrydd â’r Synhwyrydd Nwy Naturiol er mwyn ei gysylltu’n ddiwifr ag uned gartref Lifeline.
- Synhwyrydd Defnyddio Drws – gellir ei ddefnyddio fel synhwyrydd defnyddio drws syml drwy ddefnyddio’r cysylltiadau drws a roddir.
Sut mae’r Synhwyrydd Cyffredinol yn gweithio?
Mae’r Synhwyrydd Cyffredinol yn gweithio fel rhyngwyneb rhwng dyfeisiau gwifr a systemau sy’n cyd-fynd â theleofal Tunstall. Gall y rhain gynnwys systemau larwm tresbaswr, synhwyrydd nwy naturiol, synhwyrydd carbon monocsid neu fat pwysau. Mae switshis ar gefn y synhwyrydd yn caniatáu i’r gosodwr osod y synhwyrydd yn hawdd er mwyn anfon neges i’r uned gartref yn nodi pa fath o ddyfais y mae wedi gysylltu ag ef. Pan ysgogir y ddyfais atodedig, mae’r Synhwyrydd Cyffredinol yn anfon neges briodol, gan roi digon o wybodaeth i’r gweithredwr yn y Ganolfan i ymateb yn y dull mwyaf priodol.
Ar gyfer pwy mae’r Synhwyrydd Cyffredinol?
Mae’r Synhwyrydd Cyffredinol wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw unigolyn, neu sefyllfa sy’n gofyn am synwyryddion ychwanegol ar gyfer diogelwch ychwanegol.
Comments are closed.