Beth yw’r Synhwyrydd Llifogydd?
Mae’r Synhwyrydd Llifogydd yn synhwyrydd radio twt, nad yw’n amlwg, sy’n rhoi rhybudd buan o sefyllfaoedd a all arwain at lifogydd. Gellir gosod y synhwyrydd llifogydd ar lawr wrth sinc neu mewn ystafell ymolchi, wrth y toiled neu’r bath.
Beth yw Manteision Defnyddio’r Synhwyrydd Llifogydd?
Gall sinc, toiled sydd wedi tagu neu dapiau wedi eu gadael i lifo arwain yn sydyn at lifogydd ac felly ddifrodi carpedi, addurniadau ac offer trydanol a gall y canlyniadau fod yn beryglus. Gall ôl effeithiau’r llifogydd arwain at gostau trwsio uchel a chynnydd ym mhremiwm eich yswiriant, a hefyd niwed tymor hir i iechyd, yn enwedig yn y gaeaf.
Sut mae’r Synhwyrydd Llifogydd yn gweithio?
Mae gan y ddyfais dri synhwyrydd. Pan mae dau o’r tri mewn cyswllt â dŵr, mae iddo ddau fath o larwm: mae’r cyntaf yn larwm sain sydd i’w glywed yn agos, ac mae’r ail yn anfon signal i uned cartref Lifeline neu alwr CareAssist. Mae uned cartref Lifeline yn anfon galwad i’n canolfan reoli yn awtomatig, a gall y derbynnydd adnabod pa fath o synhwyrydd sydd wedi anfon yr alwad er mwyn gallu gweithredu yn y dull mwyaf addas a chyflym.
Ar gyfer pwy y mae’r synhwyrydd?
Mae’r Synhwyrydd Llifogydd yn cynnig sicrwydd ychwanegol i unrhyw berchennog neu breswylydd ac mae’n diogelu’r rhai sy’n debygol o fod mewn perygl o adael y tapiau i lifo.
Comments are closed.