Mae Mr L yn ddyn 29 oed sydd â nychdod cyhyrol – cyflwr genetig sy’n gwywo’r cyhyrau a thros amser yn cynyddu lefelau anabledd corfforol.
Yr Her
Mae Mr L yn defnyddio cadair olwyn ac yn cael cymorth gan ofalwyr i fyw o ddydd i ddydd. Mae bob amser wedi mwynhau teithio a gweithio gan fod yn rhoi annibyniaeth iddo. Mae’n gweithio tridiau yr wythnos gydag oedolion sydd angen cymorth i fyw eu bywyd.
Yr Ateb
Ac yntau’n benderfynol o beidio â gadael i’w gyflwr effeithio ar ei annibyniaeth a’i ddiogelwch yn y cartref, dechreuodd Mr L ddefnyddio’r Gwasanaeth Teleofal.
Mae ei becyn yn cynnwys:
- Crogdlws y gall ei bwyso ar unrhyw adeg i alw am help o unrhyw fan yn ei gartref neu ardd.
- Synwyryddion mwg i roi gwybod i’r ganolfan fonitro os bydd tân.
- Uned cartref, sy’n derbyn galwadau wrth grogdlws Mr L, a synwyryddion mwg sy’n cysylltu â’r ganolfan fonitro, fel bod modd galw am help 24 awr y dydd.
Y Canlyniad
I Mr L, mae Teleofal yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â byw’n annibynnol ac yn rhoi tawelwch meddwl iddo.
Er enghraifft, ar un achlysur, roedd Mr L wedi colli allweddi’r tŷ ac o ganlyniad roedd wedi’i gloi yn ei gartref ac nid oedd yn gallu cael gafael ar ei ffôn.
Pwysodd Mr L y botwm ar ei uned Teleofal, ac fe wnaeth staff y ganolfan fonitro gysylltu â saer cloeon ar ei ran.
Comments are closed.