Beth yw Mat Pwysau?
Pan fydd pwysau ar y mat, bydd yn anfon larwm mewn dau ddull. Gellir cysylltu hwn trwy wifr at yr offer cartref neu’n ddiwifr gyda Modiwl Allbwn Radio (ROM) neu Synhwyrydd Cyffredinol. Mae’r math o alwad larwm a anfonir yn dibynnu ar sut y rhaglennir yr offer. Mae’r Mat Pwysau’n cyd-fynd ag unedau cartref Lifeline a systemau eraill sy’n gweithio gyda teleofal Tunstall.
Beth yw manteision defnyddio’r Mat Pwysau?
- Dydy ei osod ddim yn amlwg i’r llygaid
- Monitro deublyg diffyg defnydd/tresbaswr – dau fath o fonitro gydag un ddyfais
- Gallu gweithredu’n ddiwifr – Gellir defnyddio’r Modiwl Allbwn Radio i anfon negeseuon radio diwifr
Sut mae’r Mat Pwysau’n gweithio?
Gellir defnyddio’r Mat Pwysau yn y ffyrdd canlynol: Diffyg defnydd – mae’n monitro symudiadau defnyddiwr, heb fod yn amlwg e.e. gellir ei roi dan garped a bydd yn anfon galwad larwm os nad yw’n synhwyro symudiad. Gweithgaredd – mae’n monitro gweithgaredd yn rhan o’r opsiwn gwrth-dresbaswr sydd ar gael ar unedau cartref Tunstall.
Ar gyfer pwy mae’r Mat Pwysau?
Mae’r mat pwysau ar gyfer pobl:
- Sy’n byw mewn eiddo sydd mewn perygl o ymyrraeth
- Sydd angen monitro anweithgarwch, fel y rhai sydd mewn perygl o gwympo
Comments are closed.