Beth yw’r Synhwyrydd Tymheredd Eithafol?
Mae’r synhwyrydd tymheredd eithafol yn darparu rhybuddion uwch o dymereddau cartref eithriadol a allai arwain at amodau byw afiach. Mae hefyd yn rhoi rhybudd am beryglon tân, oherwydd, yn annhebyg i synwyryddion mwg eraill, gellir ei roi mewn amgylchedd myglyd, a bydd yn rhybuddio os yw tymheredd yr ystafell yn gostwng at lefelau a all arwain at bibellau’n byrstio.
Beth yw Manteision Defnyddio Synhwyrydd Tymheredd Eithafol?
- Mae’n defnyddio’r amlder Ewropeaidd sydd wedi ei bennu ar gyfer larwm cymdeithasol – mae hyn yn sicrhau sicrwydd a pharhad
- Technoleg radio ddiwifr ar gyfer hyblygrwydd y dyfeisiau
- Batri sy’n para am ddwy flynedd, yn cynnwys rhybudd batri isel awtomatig – mae hyn yn sicrhau ei fod yn gweithio ar ei orau bob tro
- Larwm tymheredd isel – gwarchod rhag tymheredd dan rewbwynt
- Larwm tymheredd uchel – gwarchod rhag peryglon achosi tân
- Galw larwm yn sydyn – diogelu rhag cynnydd mewn tymheredd a allai fod yn beryglus
Sut mae’r Synhwyrydd Tymheredd Eithafol yn gweithio?
Mae’r synhwyrydd tymheredd eithafol yn anfon signal larwm i unedau cartref Lifeline ac i systemau eraill sy’n cyd-fynd â teleofal Tunstall er mwyn rhoi rhybudd cynnar o dymheredd a allai fod yn beryglus. Maent wedi eu dylunio i adnabod tri math o dymheredd: uchel, isel a chodi’n sydyn, er mwyn codi rhybuddion penodol gan ganiatáu i gamau gweithredu priodol gael eu cymryd.
- Mae’r larwm tymheredd uchel yn canu os yw’r tymheredd yn codi’n uwch na’r tymheredd uchaf am dros 2 funud – 42 Gradd C
- Mae’r larwm tymheredd isel yn canu os yw’r tymheredd yn gostwng dan y tymheredd isel am dros 20 munud – 2 gradd C.
- Mae’r larwm hefyd yn canu os yw tymheredd yr ystafell yn codi o 1ºC y funud dros gyfnod o 30 munud neu 3ºC y funud dros gyfnod o bum munud.
Ar gyfer pwy mae’r Synhwyrydd Tymheredd Eithafol?
Gellir defnyddio’r Synhwyrydd Tymheredd Eithafol gydag unrhyw uned larwm Lifeline gyfredol sydd gennym a hefyd y Galwr CareAssist.
Comments are closed.