Mae Mr M yn ei saithdegau hwyr, ac mae wedi dioddef o bolio ers ei fod yn fachgen ifanc 6 oed. O ganlyniad, effeithiwyd yn ddifrifol ar ei anadl a chafodd ei barlysu.
Er iddo wella’n raddol, mae Mr M wedi bod yn defnyddio cadair olwyn byth ers hynny.
Mae’n weithgar iawn yn ei gymuned, yn gweithio gydag ysgolion lleol, yr ysbyty ac elusennau, yn arbennig Cymdeithas Polio Prydain. Enillodd MBE am hyn.
Mae ei wraig hefyd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson yn ddiweddar.
Yr Her
Wrth i Mr M heneiddio mae rhai o’i symptomau’n gwaethygu – mae ganddo rywfaint o boen ac mae angen peiriant anadlu arno gyda’r nos i’w helpu i anadlu.
Mae ei wraig hefyd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson yn ddiweddar.
Yr Ateb
Mae Mr a Mrs M wedi bod yn defnyddio Teleofal a gwasanaeth ymateb wardeiniaid ers sawl blwyddyn, ac mae Mr M yn gwisgo crogdlws personol i’w alluogi i alw am gymorth mewn argyfwng o unrhyw leoliad yn ei gartref neu ardd.
Gan fod anghenion y ddau yn cynyddu dros amser, mae Mrs M yn gwisgo crogdlws hefyd ac mae staff Teleofal yn parhau i gysylltu â nhw yn rheolaidd i asesu a allant ddarparu unrhyw offer neu wasanaethau eraill i wneud bywyd yn ddiogelach ac yn haws iddynt.
Y Canlyniad
Mae’r gwasanaeth Teleofal wedi bod yn gysur mawr i Mr M, ac mae hefyd wedi rhoi tawelwch meddwl i Mrs M pan fu’n rhaid iddi adael ei gwr ar ei ben ei hun yn y ty.
Mae’r ddau’n gwybod bod y gwasanaeth yn ddigon hyblyg i fodloni eu hanghenion newidiol.
Comments are closed.